Matthew 26:36 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Yno ydd aeth yr Iesu gyd ac wynt i van a elwit Gethsemane, ac a ddyvor wrth y discipulon. Eisteddwch yma, tra elwyf a gweddiaw accw.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Yna y daeth yr Iesu gyda hwynt i fan a elwir Gethshemane, a dywedodd wrth Ei ddisgyblion, Eisteddwch yma, nes i Mi, wedi myned accw, weddïo.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Yna daw’r Iesu gyda hwynt i ddarn o dir a elwid Gethsemane, ac eb ef wrth y disgyblion, “Eisteddwch yma tra bwyf yn mynd draw acw i weddïo.”
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Yna y daeth yr Iesu gyda hwynt i fan a elwid Gethsemane, ac a ddywedodd wrth ei ddisgyblion, Eisteddwch yma, tra elwyf a gweddïo acw.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Dyma Iesu'n mynd gyda'i ddisgyblion i le o'r enw Gethsemane. “Eisteddwch chi yma,” meddai wrthyn nhw, “dw i'n mynd draw acw i weddïo.”
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Yna daeth Iesu gyda hwy i le a elwir Gethsemane, ac meddai wrth y disgyblion, "Eisteddwch yma tra byddaf fi'n mynd fan draw i weddo."
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Yna y mae yr Iesu yn dyfod gyda hwynt i fan a elwid Gethsemane, ac y mae yn dywedyd wrth ei Ddysgyblion, Eisteddwch yma, tra yr elwyf ymaith acw, a gweddio.