Matthew 26:37 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Ac ef a gymerth Petr, a’ dau‐vap Zebedeus ac a ðechreawð tristau, ac ymovidiaw yn tost.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Ac wedi cymmeryd Atto Petr a dau fab Zebedëus, dechreuodd dristhau ac ymofidio.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
A chymerth Bedr a dau fab Sebedeus gydag ef; a dechreuodd dristáu ac ymgynhyrfu.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ac efe a gymerth Pedr, a dau fab Sebedeus, ac a ddechreuodd dristáu ac ymofidio.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Aeth â Pedr a dau fab Sebedeus gydag e, a dechreuodd deimlo tristwch ofnadwy a gwewyr meddwl oedd yn ei lethu.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Ac fe gymerodd gydag ef Pedr a dau fab Sebedeus; a dechreuodd deimlo tristwch a thrallod dwys.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Ac efe a gymmerodd gydag Ef Petr, a dau fab Zebedeus, ac a ddechreuodd fod yn drist ac yn drallodus iawn.