Matthew 26:39 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Ac ef aeth ychydic pellach, ac a gwympodd ar ei wynep, ac y weddyawdd, can ddywedyt, Vy‐Tad, a’s gellir, aed y cwpa n hwn ywrthyf: na vyddet hagen, yn ol vy ewyllys i, anid yn ol dy ewyllys di.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Ac wedi myned ymlaen rhyw ychydig, syrthiodd ar Ei wyneb, gan weddïo, a dywedyd, Y Tad mau Fi, os bosibl yw, aed heibio oddi Wrthyf y cwppan hwn! Er hyny, nid fel yr wyf Fi yn ewyllysio, eithr fel yr wyt Ti.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Ac wedi myned rhagddo ychydig syrthiodd ar ei wyneb, gan weddïo a dywedyd, “Fy Nhad, os oes dichon, aed y cwpan hwn heibio oddi wrthyf; eithr nid fel y mynnaf i, ond fel y mynni di.”
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ac wedi iddo fyned ychydig ymlaen, efe a syrthiodd ar ei wyneb, gan weddïo, a dywedyd, Fy Nhad, os yw bosibl, aed y cwpan hwn heibio oddi wrthyf: eto nid fel yr ydwyf fi yn ewyllysio, ond fel yr ydwyt ti.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Aeth yn ei flaen ychydig, a syrthio ar ei wyneb ar lawr a gweddïo, “Fy Nhad, gad i'r cwpan chwerw yma fynd i ffwrdd os ydy hynny'n bosib. Ond paid gwneud beth dw i eisiau, gwna beth rwyt ti eisiau.”
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Aeth ymlaen ychydig, a syrthiodd ar ei wyneb gan weddo, "Fy Nhad, os yw'n bosibl, boed i'r cwpan hwn fynd heibio i mi; ond nid fel y mynnaf fi, ond fel y mynni di."
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Ac wedi iddo fyned ychydig yn mlaen, efe a syrthiodd ar ei wyneb, gan weddio a dywedyd, O fy Nhad, os yw yn bossibl, aed heibio oddiwrthyf y cwpan hwn: etto nid fel yr wyf fi yn ewyllysio, ond fel yr ydwyt ti.