Matthew 26:40 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Yno y daeth at y discipulon, ac ei cafas wy yn cyscu, ac a ddyvot wrth Petr, Paam? a ny allech’ wiliaw vn awr gyd a mi?
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
A dyfod y mae Efe at y disgyblion ac yn eu cael yn cysgu, a dywedodd wrth Petr, Felly; oni ellych, am un awr, wylied gyda Mi?
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
A daw at y disgyblion a’u cael yn cysgu, ac medd ef wrth Bedr, “Oni allasoch gadw’n effro gyda mi am gymaint ag un awr?
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ac efe a ddaeth at y disgyblion, ac a'u cafodd hwy yn cysgu; ac a ddywedodd wrth Pedr, Felly; oni allech chwi wylied un awr gyda mi?
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Pan aeth yn ôl at ei ddisgyblion roedden nhw'n cysgu. A meddai wrth Pedr, “Felly, allech chi ddim cadw golwg gyda mi am un awr fechan?
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Daeth yn l at y disgyblion a'u cael hwy'n cysgu, ac meddai wrth Pedr, "Felly! Oni allech wylio am un awr gyda mi?
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Ac y mae efe yn dyfod at ei Ddysgyblion, ac yn eu cael yn cysgu, ac a ddywed wrth Petr, Beth! Oni ellwch chwi wylied un awr gyda mi?