Matthew 26:43 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Ac ef a ddeuth, ac y cavas wy yn cyscu trachefyn: can ys ei llygait wy oedd drymion,
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Ac wedi dyfod etto, cafodd hwynt yn cysgu, canys yr oedd eu llygaid wedi trymhau.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
A daeth drachefn, a’u cael yn cysgu, canys yr oedd eu llygaid wedi trymhau.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ac efe a ddaeth, ac a'u cafodd hwy yn cysgu drachefn: canys yr oedd eu llygaid hwy wedi trymhau.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Ond pan ddaeth yn ôl, roedden nhw wedi syrthio i gysgu eto — roedden nhw'n methu'n lân â chadw eu llygaid ar agor.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
A phan ddaeth yn l fe'u cafodd hwy'n cysgu eto, oherwydd yr oedd eu llygaid yn drwm.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Ac efe a ddaeth drachefn, ac a'u cafodd hwynt yn cysgu: canys yr oedd eu llygaid hwy wedi trymhau.