Matthew 26:44 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Ac ef ei gadawodd wy ac aech ymaith drachefyn, ac a weddiawdd y trydeð waith, can ddywedyt yr vn gairiae.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
A chan eu gadael hwynt etto, wedi myned oddi wrthynt, gweddïodd y drydedd waith, ac yr un geiriau a ddywedodd etto.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Ac fe’u gadawodd ac aeth ymaith drachefn, a gweddïodd y drydedd waith gan ddywedyd yr un ymadrodd drachefn.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ac efe a'u gadawodd hwynt, ac a aeth ymaith drachefn, ac a weddïodd y drydedd waith, gan ddywedyd yr un geiriau.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Felly gadawodd nhw a mynd i ffwrdd i weddïo yr un peth eto y drydedd waith.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Ac fe'u gadawodd eto a mynd ymaith i weddo y drydedd waith, gan lefaru'r un geiriau drachefn.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Ac efe a'u gadawodd hwynt, ac a aeth ymaith drachefn, ac a weddiodd y drydedd waith, gan lefaru yr un ymadrodd.