Matthew 26:45 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Yno y daeth ef at ei discipulon, ac a ddyvot wrthynt, Cuscwch bellach a’ gorphwyswch: nycha, mae’r awr wedy nesay, a’ Map y dyn a roddir yn‐dwylaw pechaturieit.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Yna dyfod y mae at y disgyblion, a dywedodd wrthynt, Cysgwch bellach, a gorphwyswch; Wele, nesaodd yr awr, a Mab y Dyn sy’n cael Ei draddodi i ddwylaw pechaduriaid.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Yna daw at y disgyblion, ac medd ef wrthynt, “A ydych yn dal i gysgu a gorffwys? Dyma’r awr gerllaw, awr traddodi Mab y dyn i ddwylo pechaduriaid.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Yna y daeth efe at ei ddisgyblion, ac a ddywedodd wrthynt, Cysgwch bellach, a gorffwyswch: wele, y mae'r awr wedi nesáu, a Mab y dyn a draddodir i ddwylo pechaduriaid.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Yna daeth yn ôl at ei ddisgyblion a dweud wrthyn nhw, “Dych chi'n cysgu eto? Yn dal i orffwys? Edrychwch! Mae'r foment wedi dod. Dw i, Mab y Dyn, ar fin cael fy mradychu i afael pechaduriaid.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Yna daeth at y disgyblion a dweud wrthynt, "A ydych yn dal i gysgu a gorffwys? Dyma'r awr yn agos, a Mab y Dyn yn cael ei fradychu i ddwylo pechaduriaid.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Yna y mae efe yn dyfod at y Dysgyblion, ac a ddywed wrthynt, Cysgwch yr amser sydd weddill, a gorphwyswch. Wele, y mae yr awr wedi neshau, a Mab y Dyn sydd yn cael ei draddodi i ddwylaw pechaduriaid.