Matthew 26:47 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Ac ef eto yn dywedyt hyn, nycha, Iudas, vn or dauddec yn dyvot a’ thorf vawr cyd a’ ef a chleddyvae a’ ffynn, ywrth yr Archoffeiriait a’ henurieit y popul.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Ac Efe etto yn llefaru, wele, Iwdas, un o’r deuddeg, a ddaeth; ac ynghydag ef, dyrfa fawr â chleddyfau a ffyn, oddi wrth yr archoffeiriaid a henuriaid y bobl.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Ac ef eto’n llefaru, dyma Iwdas, un o’r deuddeg, yn dyfod, a chydag ef dyrfa fawr â chleddyfau a phastynau oddi wrth yr archoffeiriaid a henuriaid y bobl.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ac efe eto yn llefaru, wele, Jwdas, un o'r deuddeg, a ddaeth, a chydag ef dyrfa fawr â chleddyfau a ffyn, oddi wrth yr archoffeiriaid a henuriaid y bobl.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Wrth iddo ddweud y peth, dyma Jwdas, un o'r deuddeg disgybl, yn ymddangos gyda thyrfa yn cario cleddyfau a phastynau. Roedd y prif offeiriaid a'r arweinwyr Iddewig eraill wedi eu hanfon nhw i ddal Iesu.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Yna, tra oedd yn dal i siarad, dyma Jwdas, un o'r Deuddeg, yn dod, a chydag ef dyrfa fawr yn dwyn cleddyfau a phastynau, wedi eu hanfon gan y prif offeiriaid a henuriaid y bobl.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Ac efe etto yn llefaru, wele Judas, un o'r Deuddeg, a ddaeth, a chydag ef dyrfa fawr â chleddyfau a ffyn oddiwrth yr Archoffeiriaid a Henuriaid y bobl.