Matthew 26:50 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
A’r Iesu a ddyvot wrthaw, Y car y ba beth y daethost? Yno y deuthant ac y roesont ddwylo ar yr Iesu, ac ei daliesant.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
A’r Iesu a ddywedodd wrtho, Y cyfaill, am yr hyn yr wyt yma. Yna wedi dyfod Atto rhoisant eu dwylaw ar yr Iesu, a daliasant Ef.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
A chusanodd ef. Dywedodd yr Iesu wrtho, “Gyfaill, ymlaen gyda’th waith.” Yna daethant a rhoi eu dwylo ar yr Iesu, a’i ddal.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A'r Iesu a ddywedodd wrtho. Y cyfaill, i ba beth y daethost? Yna y daethant, ac y rhoesant ddwylo ar yr Iesu, ac a'i daliasant ef.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
“Gwna beth rwyt wedi dod yma i'w wneud gyfaill,” meddai Iesu wrtho. Yna gafaelodd y lleill yn Iesu a'i arestio.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Dywedodd Iesu wrtho, "Gyfaill, gwna'r hyn yr wyt yma i'w wneud." Yna daethant a rhoi eu dwylo ar Iesu a'i ddal.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
A'r Iesu a ddywedodd, Gydymaith, wele yr hyn y daethost o'i blegyd. Yna y daethant, ac y rhoddasant ddwylaw ar yr Iesu, ac a'i daliasant ef.