Matthew 26:51 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
A’ nycha, vn or ei oedd gyd a’r Iesu, a estennawdd ei law, ac a dynnawdd ei gleddyf, ac a drawawdd was yr Archoffeiriat, ac a dorawdd ei glust ymaith.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Ac wele, un o’r rhai gyda’r Iesu wedi estyn ei law a dynnodd ei gleddyf; ac wedi tarawo gwas yr archoffeiriad, dorrodd ymaith ei glust ef.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
A dyma un o’r rhai a oedd gydag Iesu yn estyn ei law a thynnu ei gleddyf, a chan daro gwas yr archoffeiriad torrodd ymaith ei glust.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ac wele, un o'r rhai oedd gyda'r Iesu, a estynnodd ei law, ac a dynnodd ei gleddyf, ac a drawodd was yr archoffeiriad, ac a dorrodd ei glust ef.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Ond yn sydyn, dyma un o ffrindiau Iesu yn tynnu cleddyf allan a tharo gwas yr archoffeiriad. Torrodd ei glust i ffwrdd.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
A dyma un o'r rhai oedd gyda Iesu yn estyn ei law ac yn tynnu ei gleddyf a tharo gwas yr archoffeiriad a thorri ei glust i ffwrdd.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Ac wele, un o'r rhai oedd gyda'r Iesu a estynodd ei law, ac a dynodd ei gleddyf, ac a darawodd was yr Archoffeiriad, ac a gymmerodd ymaith ei glust ef.