Matthew 26:52 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Yno y dyvot yr Iesu wrthaw, Dod dy gleddyf yn ei le: can ys pawp a’r a gymerant gleddyf, a chleddyf eu collir.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Yna y dywedodd yr Iesu wrtho, Dychwel dy gleddyf di i’w le, canys pawb o’r a gymmerant gleddyf, â chleddyf y difethir hwynt.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Yna medd yr Iesu wrtho, “Dychwel dy gleddyf i’w le, canys pawb a gymeront gleddyf, â chleddyf y difethir hwy.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Yna y dywedodd yr Iesu wrtho, Dychwel dy gleddyf i'w le: canys pawb a'r a gymerant gleddyf, a ddifethir â chleddyf.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
“Cadw dy gleddyf!” meddai Iesu wrtho, “Bydd pawb sy'n trin y cleddyf yn cael eu lladd gan y cleddyf.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Yna dywedodd Iesu wrtho, "Rho dy gleddyf yn l yn ei le, oherwydd bydd pawb sy'n cymryd y cleddyf yn marw trwy'r cleddyf.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Yna y dywed yr Iesu wrtho, Dychwel dy gleddyf i'w le; canys pawb a'r a gymmerant gleddyf a ddyfethir â chleddyf.