Matthew 26:53 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Ai wyti yn tybiet, na’s gallaf yr awrhon weddiaw ar vy‐Tad, ac ef rydd i mi vwy na dauddec lle n g o Angelion?
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
A feddyli di na allaf ddeisyf ar Fy Nhad, a rhydd Efe wrthyf yn y fan fwy na deuddeg lleng o angylion?
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Neu a dybi di na allaf ddeisyf ar fy Nhad, a chawn ganddo yn y fan fwy na deuddeg lleng o angylion?
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A ydwyt ti yn tybied nas gallaf yr awr hon ddeisyf ar fy Nhad, ac efe a rydd yn y fan i mi fwy na deuddeg lleng o angylion?
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Wyt ti ddim yn sylweddoli y gallwn i alw ar fy Nhad am help, ac y byddai'n anfon miloedd ar filoedd o angylion ar unwaith?
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
A wyt yn tybio na allwn ddeisyf ar fy Nhad, ac na roddai i mi yn awr fwy na deuddeg lleng o angylion?
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Neu a wyt ti yn tybied nas gallaf ddeisyf ar fy Nhad, ac efe a rydd yr awr hon i mi fwy na deuddeg lleng o angelion?