Matthew 26:55 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Yn yr awr hono y dyvot yr Iesu wrth y durfa, Chwi a ddeuthoch allan megis at leitr a chleddyfae ac a’ ffynn im dal i: ydd oeddwn baunyð yn eistedd ac yn dyscy’r popul yn y Templ yn eich plith ac ni’m daliesoch.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Yn yr awr honno y dywedodd yr Iesu wrth y torfeydd, Fel yn erbyn lleidr y daethoch allan â chleddyfau a ffyn i’m dal I. Peunydd yn y deml yr eisteddwn yn dysgu, ac ni’m daliasoch.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Yr awr honno ebe’r Iesu wrth y tyrfaoedd, “Ai megis at leidr y daethoch allan gyda chleddyfau a phastynau i’m dal? Beunydd yr eisteddwn yn y deml yn dysgu, ac ni roesoch law arnaf.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Yn yr awr honno y dywedodd yr Iesu wrth y torfeydd, Ai megis at leidr y daethoch chwi allan, â chleddyfau a ffyn i'm dal i? yr oeddwn i beunydd gyda chwi yn eistedd yn dysgu yn y deml, ac ni'm daliasoch.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
“Ydw i'n arwain gwrthryfel neu rywbeth?” meddai Iesu wrth y dyrfa oedd yno. “Ai dyna pam mae angen y cleddyfau a'r pastynau yma? Pam wnaethoch chi ddim fy arestio i yn y deml? Roeddwn i'n eistedd yno bob dydd, yn dysgu'r bobl.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
A'r pryd hwnnw dywedodd Iesu wrth y dyrfa, "Ai fel at leidr, chleddyfau a phastynau, y daethoch allan i'm dal i? Yr oeddwn yn eistedd beunydd yn y deml yn dysgu, ac ni ddaliasoch fi.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Yn yr awr hono y dywedodd yr Iesu wrth y torfeydd, Ai megys at yspeiliwr y daethoch allan, â chleddyfau a ffyn, i'm cymmeryd i fyny? Yr oeddwn I beunydd yn y Deml yn eistedd ac yn dysgu; ac ni'm daliasoch.