Matthew 26:56 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
A’ hyn oll awnaethpwyt, er cyflawny’r Scrythure ’r Prophwyti. Yno yr oll ddiscipulon ei gadasant, ac a giliesant.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Ond hyn oll a wnaethpwyd, fel y cyflawnid Ysgrythyrau’r Prophwydi. Yna y disgyblion oll, gan Ei adael, a ffoisant.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Ond hyn oll a fu fel y cyflawnid ysgrythurau’r proffwydi.” Yna gadawodd yr holl ddisgyblion ef, a ffoesant.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A hyn oll a wnaethpwyd, fel y cyflawnid ysgrythurau'r proffwydi. Yna yr holl ddisgyblion a'i gadawsant ef, ac a ffoesant.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Ond mae hyn i gyd wedi digwydd er mwyn i beth mae'r proffwydi'n ei ddweud yn yr ysgrifau sanctaidd ddod yn wir.” Yna dyma'r disgyblion i gyd yn ei adael ac yn dianc.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Ond digwyddodd hyn oll fel y cyflawnid yr hyn a ysgrifennodd y proffwydi." Yna gadawodd y disgyblion ef bob un, a ffoi.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Eithr hyn oll sydd wedi ei wneuthur fel y cyflawnir Ysgrythyrau y Proffwydi. Yna yr holl Ddysgyblion a'i gadawsant ef, ac a ffoisant.