Matthew 26:57 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Ac wynt a ðaliesant yr Iesu, ac aethant ac ef at Caiaphas yr Archoffeiriat, lle ydd edd yr Scrivenyddion ar Henuriait wedy’r ymgascly yn‐cyt.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
A’r rhai a ddaliasant yr Iesu a’ i dygasant Ef ymaith at Caiaphas yr archoffeiriad, lle yr oedd yr ysgrifenyddion a’r henuriaid wedi ymgasglu ynghyd.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
A’r rhai a ddaliodd yr Iesu a’i dug ef ymaith at Gaiaffas yr archoffeiriad i’r lle yr ymgynullasai’r ysgrifenyddion a’r henuriaid.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A'r rhai a ddaliasent yr Iesu, a'i dygasant ef ymaith at Caiaffas yr archoffeiriad, lle yr oedd yr ysgrifenyddion a'r henuriaid wedi ymgasglu ynghyd.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Dyma'r rhai oedd wedi arestio Iesu yn mynd ag e i dŷ Caiaffas yr archoffeiriad, lle roedd yr arbenigwyr yn y Gyfraith a'r arweinwyr eraill wedi dod at ei gilydd.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Aeth y rhai oedd wedi dal Iesu ag ef ymaith i du375? Caiaffas yr archoffeiriad, lle'r oedd yr ysgrifenyddion a'r henuriaid wedi dod ynghyd.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
A'r rhai a ddaliasant yr Iesu a'i harweiniasant ymaith at Caiaphas yr Archoffeiriad, lle yr oedd yr Ysgrifenyddion a'r Henuriaid wedi ymgasglu yn nghyd.