Matthew 26:58 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Ac Petr y cynlynawdd ef o hirbell yd yn llys yr Archoffeiriat, ac aeth y mewn, ac a eisteddawdd gyd a’r gweision i weled y diben.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
A Phetr a’i canlynodd Ef, o hirbell, hyd at lys yr archoffeiriad, ac wedi myned i mewn, eisteddodd gyda’r gweinidogion i weled y diwedd.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Yr oedd Pedr yn ei ddilyn ef o bell hyd gyntedd yr archoffeiriaid, ac aeth i mewn ac eistedd gyda’r gwasanaethyddion i weled y diwedd.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A Phedr a'i canlynodd ef o hirbell, hyd yn llys yr archoffeiriad; ac a aeth i mewn, ac a eisteddodd gyda'r gweision, i weled y diwedd.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Ond dyma Pedr yn dilyn o bell nes cyrraedd iard tŷ'r archoffeiriad. Aeth i mewn, ac eistedd i lawr gyda'r gweision diogelwch, a disgwyl i weld beth fyddai'n digwydd.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Canlynodd Pedr ef o hirbell hyd at gyntedd yr archoffeiriad, ac wedi mynd i mewn eisteddodd gyda'r gwasanaethwyr, i weld y diwedd.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
A Phetr oedd yn ei ganlyn ef o hirbell, hyd yn Llys yr Archoffeiriad, ac a aeth i mewn, ac a eisteddodd gyd a'r swyddogion, i weled y diwedd.