Matthew 26:59 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
A’r Archoffeirieit a’r Henureit, a’r oll gymmynva y geisiesōt gaudestiolyeth yn erbyn yr Iesu, yw ddody ef i angae.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
A’r archoffeiriaid a’r Cynghor oll a geisient au-dystiolaeth yn erbyn yr Iesu, fel y rhoddent Ef i farwolaeth;
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
A cheisiai’r archoffeiriaid a’r holl Sanhedrin gam dystiolaeth yn erbyn yr Iesu fel y rhoddent ef i farwolaeth,
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A'r archoffeiriaid a'r henuriaid, a'r holl gyngor, a geisiasant gau dystiolaeth yn erbyn yr Iesu, fel y rhoddent ef i farwolaeth;
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Roedd y prif offeiriaid a'r Sanhedrin (hynny ydy yr uchel-lys Iddewig) yn edrych am dystion oedd yn barod i ddweud celwydd am Iesu, er mwyn iddyn nhw ei ddedfrydu i farwolaeth.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Yr oedd y prif offeiriaid a'r holl Sanhedrin yn ceisio camdystiolaeth yn erbyn Iesu, er mwyn ei roi i farwolaeth,
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
A'r Arch‐offeiriaid a'r holl Gynghor, oeddynt yn ceisio gau‐dystiolaeth yn erbyn yr Iesu, fel y rhoddent ef i farwolaeth;