Matthew 26:60 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Ac ny ’s cawsant neb, ac er dyvot yno lawer gaudystion, ny chawsont chwaith. Ac o’r dywedd y deuth dau gau dystion,
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
ac ni chawsant, er dyfod attynt o lawer o au-dystion.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
ac nis cawsant er i lawer o gam dystion ddyfod ymlaen.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ac nis cawsant: ie, er dyfod yno gau dystion lawer, ni chawsant. Eithr o'r diwedd fe a ddaeth dau gau dyst,
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Ond er i lawer o bobl ddod ymlaen a dweud celwydd amdano, chawson nhw ddim tystiolaeth allen nhw ei ddefnyddio yn ei erbyn. Yn y diwedd dyma ddau yn dod ymlaen
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
ond ni chawsant ddim, er i lawer o dystion gau ddod ymlaen. Yn y diwedd daeth dau ymlaen
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
ac ni chawsant, er dyfod gau‐dystion lawer; eithr o'r diwedd fe a ddaeth dau,