Matthew 26:63 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
A’r Iesu a dawodd. Yno ydd atepawdd yr Archoffeiriat, ac a ddyvot wrthaw, Mi ath dyngaf trwy’r Duw byw, ddywedyt o hanot i ni, a’s ti ywr Christ Map Duw.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Ond yr Iesu a dawodd; a’r archoffeiriad a ddywedodd Wrtho, Tynghedaf Di, myn y Duw byw, ddywedyd o Honot i ni ai Tydi yw y Crist, Mab Duw.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Ond tawai’r Iesu. Ac ebe’r archoffeiriad wrtho, “Yr wyf yn dy dynghedu di trwy’r Duw byw ddywedyd i ni ai ti yw’r Crist, Mab Duw.”
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ond yr Iesu a dawodd. A'r archoffeiriad gan ateb a ddywedodd wrtho, Yr ydwyf yn dy dynghedu di trwy'r Duw byw, ddywedyd ohonot i ni, ai tydi yw y Crist, Mab Duw.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Ond ddwedodd Iesu ddim. Yna dyma'r archoffeiriad yn dweud wrtho, “Dw i'n dy orchymyn di yn enw'r Duw byw i'n hateb ni! Ai ti ydy'r Meseia, mab Duw?”
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Parhaodd Iesu'n fud; a dywedodd yr archoffeiriad wrtho, "Yr wyf yn rhoi siars i ti dyngu yn enw'r Duw byw a dweud wrthym ai ti yw'r Meseia, Mab Duw."
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Ond yr Iesu a dawodd. A'r Arch‐offeiriad a ddywedodd wrtho, Yr wyf yn dy osod ar lw drwy y Duw byw, fel y dywedi i ni, os tydi yw y Crist, Mab Duw?