Matthew 26:64 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Yr Iesu a ddyvot wrthaw, Tu ei dywedeist; eithyr mi a ddywedaf wrthych, ar ol hynn y gwelwch Vap y dyn, yn eistedd ar ddeheu gallu Duvv, ac yn dawot yn wybrenae’r nef.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Dywedodd yr Iesu wrtho, Ti a ddywedaist. Ond dywedaf wrthych, Ar ol hyn y gwelwch Fab y Dyn yn eistedd ar ddeheulaw’r Gallu, ac yn dyfod ar gymmylau’r nef.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Medd yr Iesu wrtho, “Ti sy’n gofyn; eithr meddaf i chwi, ar ôl hyn cewch weled Mab y dyn yn eistedd ar ddeheulaw’r gallu, ac yn dyfod ar gymylau’r nef.”
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Yr Iesu a ddywedodd wrtho, Ti a ddywedaist: eithr meddaf i chwi, Ar ôl hyn y gwelwch Fab y dyn yn eistedd ar ddeheulaw'r gallu, ac yn dyfod ar gymylau'r nef.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
“Ie,” meddai Iesu, “fel rwyt ti'n dweud. Ond dw i'n dweud wrthoch chi i gyd: Rhyw ddydd byddwch chi'n fy ngweld i, Mab y Dyn, yn llywodraethu gyda'r Un Grymus ac yn dod yn ôl ar gymylau'r awyr.”
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Dywedodd Iesu wrtho, "Ti a ddywedodd hynny; ond 'rwy'n dweud wrthych: 'O hyn allan fe welwch Fab y Dyn yn eistedd ar ddeheulaw'r Gallu ac yn dyfod ar gymylau'r nef.'"
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
A'r Iesu a ddywedodd wrtho, Ti a ddywedaist: er hyny, meddaf i chwi, O hyn allan y gwelwch Fab y Dyn yn eistedd ar ddeheulaw y Gallu, ac yn dyfod ar gymmylau y nef.