Matthew 26:65 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Yno y rhwygawdd yr Archoffeiriat ei ddillat, can ddywedyt, Ef a gablawdd: pa reit i ni mwy wrth testion? nycha, clywsoch y gabl ef.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Yna yr archoffeiriad a rwygodd ei ddillad, gan ddywedyd, Cablodd: paham y mae rhaid i ni mwy wrth dystion? Wele, yn awr clywsoch y gabledd.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Yna rhwygodd yr archoffeiriad ei ddillad gan ddywedyd, “Cablodd. Pa raid i ni mwy wrth dystion? Wele yn awr, clywsoch y cabledd;
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Yna y rhwygodd yr archoffeiriad ei ddillad, gan ddywedyd, Efe a gablodd: pa raid inni mwy wrth dystion? wele, yr awron clywsoch ei gabledd ef.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Wrth glywed beth ddwedodd Iesu, dyma'r archoffeiriad yn rhwygo ei ddillad. “Cabledd!” meddai, “Pam mae angen tystion arnon ni?! Dych chi i gyd newydd ei glywed yn cablu.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Yna rhwygodd yr archoffeiriad ei ddillad a dweud, "Cabledd! Pa raid i ni wrth dystion bellach? Yr ydych newydd glywed ei gabledd.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Yna yr Arch‐offeiriad a rwygodd ei ddillad, ac a ddywedodd, Efe a gablodd: paham y mae rhaid i ni bellach wrth dystion? wele, yr awrhon y clywsoch y cabledd.