Matthew 26:71 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
A’ phan aeth ef allan ir porth, y gwelawdd morvvynic arall ef, ac a ddyvot wrth yr ei oedd ynow, Ydd oedd hwnn hefyt gyd ac Iesu o Nazaret.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Ac ar ol myned allan o hono i’r porth, gwelodd morwynig arall ef, a dywedodd wrth y rhai oedd yno, A hwn hefyd oedd gydag Iesu y Natzaread.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Ac wedi iddo fynd allan i’r porth, gwelodd morwyn arall ef, ac medd hi wrth y rhai oedd yno, “Yr oedd hwn gydag Iesu’r Nasaread.”
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A phan aeth efe allan i'r porth, gwelodd un arall ef; a hi a ddywedodd wrth y rhai oedd yno, Yr oedd hwn hefyd gyda'r Iesu o Nasareth.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Aeth allan at y fynedfa i'r iard, a dyma forwyn arall yn ei weld yno, a dweud wrth y bobl o'i chwmpas, “Roedd hwn gyda Iesu o Nasareth.”
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Ac wedi iddo fynd allan i'r porth, gwelodd morwyn arall ef a dweud wrth y rhai oedd yno, "Yr oedd hwn gyda Iesu'r Nasaread."
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Ac fel yr oedd efe yn myned allan i'r porth, gwelodd morwynig arall ef, a hi a ddywed wrth y rhai oedd yno, Ac yr oedd hwn gyda Iesu y Nazaread!