Matthew 26:73 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Ac ychydic gwedy, y deuth attaw ’rei oeð yn sefyll geyr llaw, ac a ddywedesont wrth Petr, Yn wir ydd yw ti yn vn o hanwynt, can ys bot dy lediaith yn dy gyhoeddy.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Ac wedi ychydig, wedi dyfod atto o’r rhai oedd yn sefyll yno, dywedasant wrth Petr, Yn wir, tithau hefyd wyt o honynt, canys dy leferydd a’th wna yn amlwg.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Ymhen ychydig daeth y rhai oedd gerllaw ato, a dywedasant wrth Bedr, “Yn wir yr wyt tithau yn un ohonynt; achos y mae dy leferydd yn dy fradychu.”
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ac ychydig wedi, daeth y rhai oedd yn sefyll gerllaw, ac a ddywedasant wrth Pedr, Yn wir yr wyt tithau yn un ohonynt; canys y mae dy leferydd yn dy gyhuddo.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Ychydig wedyn, dyma rai eraill oedd yn sefyll yno yn mynd at Pedr a dweud, “Ti'n un ohonyn nhw'n bendant! Mae'n amlwg oddi wrth dy acen di.”
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Ymhen ychydig, dyma'r rhai oedd yn sefyll yno yn dod at Pedr a dweud wrtho, "Yn wir yr wyt ti hefyd yn un ohonynt, achos y mae dy acen yn dy fradychu."
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Ac yn mhen ychydig daeth y rhai oedd yn sefyll, ac a ddywedasant wrth Petr, Yn wir yr wyt tithau hefyd yn un o honynt, canys y mae dy dafodiaith hefyd yn dy ddadguddio.