Matthew 26:75 — Compare Translations
6 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Yno y cofiawdd Petr ’airie ’r Iesu yr hwn a ddywedesei wrthaw, Cyn canu yr ceilioc, tu a’m gwedy deirgwaith. Yno ydd aeth ef allan ac ydd wylawdd yn dost.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
A chofiodd Pedr y gair a ddywedasai’r Iesu, “Cyn i’r ceiliog ganu, ti a’m gwedi deirgwaith.” Ac aeth allan, ac wylodd yn chwerw.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A chofiodd Pedr air yr Iesu, yr hwn a ddywedasai wrtho, Cyn canu o'r ceiliog, ti a'm gwedi deirgwaith. Ac efe a aeth allan, ac a wylodd yn chwerw‐dost.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Yna cofiodd Pedr beth ddwedodd Iesu: “Byddi di wedi gwadu dy fod di'n fy nabod i dair gwaith cyn i'r ceiliog ganu.” Aeth allan yn beichio crïo.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Cofiodd Pedr y gair a lefarodd Iesu, "Cyn i'r ceiliog ganu, fe'm gwedi i deirgwaith." Aeth allan ac wylo'n chwerw.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
A chofiodd Petr y gair pan ddywedodd yr Iesu, Cyn cana ceiliog, ti a'm gwedi deirgwaith. Ac efe a aeth allan, ac a wylodd yn chwerw‐dost.