Matthew 26:8 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
A’ phan weles ei ddiscipulon, wy a sorasont, gan ddywedyt, Pa rait y gollet hon?
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Ac wedi gweled hyn, y disgyblion a sorrasant, gan ddywedyd, I ba beth y bu’r golled hon?
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
A phan welodd y disgyblion, digiasant gan ddywedyd, “Paham y golled hon?
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A phan welodd ei ddisgyblion, hwy a sorasant, gan ddywedyd, I ba beth y bu'r golled hon?
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Roedd y disgyblion yn wyllt pan welon nhw hi'n gwneud hyn. “Am wastraff!” medden nhw,
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Pan welodd y disgyblion hyn, aethant yn ddig a dweud, "I ba beth y bu'r gwastraff hwn?
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
A phan welodd y Dysgyblion, hwy a ffromasant, gan ddywedyd, I ba ddyben y golled hon?