Matthew 27:11 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
A’r Iesu a safawð geyr bron y llywyawdr, a’r llywyawdr a ovynawdd yddo, can ddywedyt, Ai ti’r Brehin yr Iuddaeon? A’r Iesn a ddyvot wrthaw, tu ei dywedeist.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
A’r Iesu a safodd ger bron y rhaglaw, a gofynodd y rhaglaw Iddo, gan ddywedyd, Ai Tydi wyt brenhin yr Iuddewon? A’r Iesu a ddywedodd wrtho, Ti a ddywedi.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
A safodd yr Iesu gerbron y rhaglaw; a gofynnodd y rhaglaw iddo, “Ai ti yw Brenin yr Iddewon?” Ac ebe’r Iesu, “Ti sy’n gofyn.”
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A'r Iesu a safodd gerbron y rhaglaw: a'r rhaglaw a ofynnodd iddo, gan ddywedyd, Ai ti yw Brenin yr Iddewon? A'r Iesu a ddywedodd wrtho, Yr wyt ti yn dywedyd.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Yn y cyfamser, roedd Iesu'n sefyll ei brawf o flaen y llywodraethwr Rhufeinig. Dyma Peilat yn dweud wrtho, “Felly, ti ydy Brenin yr Iddewon, ie?” “Ti sy'n dweud,” atebodd Iesu.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Safodd Iesu gerbron y rhaglaw; a holodd y rhaglaw ef: "Ai ti yw Brenin yr Iddewon?" Atebodd Iesu, "Ti sy'n dweud hynny."
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
A'r Iesu a osodwyd gerbron y Rhaglaw: a'r Rhaglaw a'i holodd ef, gan ddywedyd, Ai ti yw Brenin yr Iuddewon? A'r Iesu a ddywedodd wrtho, Ti a ddywedaist.