Matthew 27:14 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Ac y nyd atepawdd ef yddo i vn gair, val y rryweddawdd y llywawdr yn vawr.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Ac nid attebodd iddo ef, nid i gymmaint ag un gair, fel y rhyfeddodd y rhaglaw yn ddirfawr.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Ac nid atebodd iddo, naddo, i ddim un gair, er syndod mawr i’r rhaglaw.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ac nid atebodd efe iddo i un gair; fel y rhyfeddodd y rhaglaw yn fawr.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Ond wnaeth Iesu ddim ateb hyd yn oed un cyhuddiad! Doedd y peth yn gwneud dim sens i'r llywodraethwr.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Ond ni roes ef iddo ateb i gymaint ag un cyhuddiad, er syndod mawr i'r rhaglaw.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Ac nid atebodd efe iddo hyd y nod un gair, fel y rhyfeddodd y Rhaglaw yn fawr.