Matthew 27:17 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
A’ gwedy yðynt ymgasclu yn‐cyt, Pilatus a ðyyvot wrthynt, Pa vn avynwch i mi ellwng y chwi, Barabas ai Iesu yr hwn a elwir Christ?
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Gan hyny, wedi ymgasglu o honynt ynghyd, gofynodd Pilat iddynt, Pwy a ewyllysiwch ei ollwng yn rhydd genyf i chwi?
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Felly wedi iddynt ymgynnull dywedodd Pilat wrthynt, “Pwy a ddewiswch i mi ei ryddhau i chwi, Barabbas ai Iesu, a elwir Crist?”
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Wedi iddynt gan hynny ymgasglu ynghyd, Peilat a ddywedodd wrthynt, Pa un a fynnwch i mi ei ollwng yn rhydd i chwi? Barabbas, ai'r Iesu, yr hwn a elwir Crist?
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Felly pan oedd y dyrfa wedi ymgasglu, dyma Peilat yn gofyn iddyn nhw, “Pa un o'r ddau dych chi am i mi ei ollwng yn rhydd? Barabbas, neu Iesu, yr un sy'n cael ei alw ‛Y Meseia‛?”
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Felly, wedi iddynt ymgynnull, gofynnodd Pilat iddynt, "Pwy a fynnwch i mi ei ryddhau i chwi, Iesu Barabbas ynteu Iesu a elwir y Meseia?"
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Wedi iddynt, gan hyny, ymgasglu ynghyd, Pilat a ddywedodd wrthynt, Pa un a fynwch i mi ei ryddhau i chwi? Barabbas ai yr Iesu, yr hwn a elwir Crist?