Matthew 27:19 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Ac ef yn eisteð ar yr ’orseddvainc, ei wraic a ddanvonawdd attaw gā ðywedyt, Na vit i ti awnelych ar gvvr cyfiawn hwnnw, can ys goddefais lawer heðyw mewn breuddwyddion o ei a chos.)
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Ac efe yn eistedd ar y frawd-faingc, danfonodd ei wraig atto, gan ddywedyd, Na fydded i ti ddim a wnelych â’r cyfiawn hwnw, canys llawer a ddioddefais heddyw mewn breuddwyd o’i achos Ef.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
A thra oedd ef yn eistedd ar y frawdle danfonodd ei wraig ato, gan ddywedyd, “Na foed dim a wnelych di â’r un cyfiawn hwnnw, canys dioddefais lawer heddiw mewn breuddwyd o’i achos ef.”
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ac efe yn eistedd ar yr orseddfainc, ei wraig a ddanfonodd ato, gan ddywedyd, Na fydded i ti a wnelych â'r cyfiawn hwnnw: canys goddefais lawer heddiw mewn breuddwyd o'i achos ef.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Roedd Peilat yno'n eistedd yn sedd y barnwr pan ddaeth neges iddo oddi wrth ei wraig: “Mae'r dyn yna'n ddieuog — paid gwneud dim byd iddo. Ces i hunllef ofnadwy amdano neithiwr.”
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
A thra oedd Pilat yn eistedd ar y brawdle anfonodd ei wraig neges ato, yn dweud, "Paid chael dim i'w wneud 'r dyn cyfiawn yna, oherwydd cefais lawer o ofid mewn breuddwyd neithiwr o'i achos ef."
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Ac efe yn eistedd ar yr orseddfainc, ei wraig a ddanfonodd ato, gan ddywedyd, Na fydded i ti a wnelych a'r Cyfiawn hwnw: canys dyoddefais heddyw lawer o bethau mewn breuddwyd o'i achos ef.