Matthew 27:21 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
A’r llywyawdur a atepawdd, ac a ddyvot wrthynt, Pa vn o’r ddau a vynwch i mi ei ellwng ychwy? Wyntae a ddywetsant Barabbas.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
A chan atteb, y rhaglaw a ddywedodd wrthynt, Pa un o’r ddau a ewyllysiwch i mi ei ollwng yn rhydd i chwi? A hwy a ddywedasant, Barabba.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Atebodd y rhaglaw iddynt, “Pa un o’r ddau a ddewiswch i mi ei ryddhau i chwi?”
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A'r rhaglaw a atebodd ac a ddywedodd wrthynt, Pa un o'r ddau a fynnwch i mi ei ollwng yn rhydd i chwi? Hwythau a ddywedasant, Barabbas.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Gofynnodd y llywodraethwr eto, “Pa un o'r ddau yma dych chi eisiau i mi ei ryddhau?” Dyma nhw'n ateb, “Barabbas!”
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Atebodd y rhaglaw gan ofyn iddynt, "Prun o'r ddau a fynnwch i mi ei ryddhau i chwi?"
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
A'r Rhaglaw a atebodd ac a ddywedodd wrthynt, Pa un o'r ddau a fynwch i mi ei ryddhau i chwi? A hwy a ddywedasant, Barabbas.