Matthew 27:23 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Yno y dyvot y llywyawdur, An’d pa ddrwc y wnaeth ef? Yno y llefesont yn vwy, can ddywedyt, Croger ef.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Dywedasant oll, Croes-hoelier Ef. Ac efe a ddywedodd, Canys pa ddrwg a wnaeth Efe? A hwy a ddirfawr-waeddasant, gan ddywedyd, Croes-hoelier Ef.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Ebe yntau, “Eithr pa ddrwg a wnaeth ef?” Gwaeddent hwythau fwyfwy, “Croeshoelier ef.”
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A'r rhaglaw a ddywedodd, Ond pa ddrwg a wnaeth efe? Hwythau a lefasant yn fwy, gan ddywedyd, Croeshoelier ef.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
“Pam?” meddai Peilat, “Beth mae e wedi ei wneud o'i le?” Ond dyma nhw'n dechrau gweiddi'n uwch, “Croeshoelia fe!”
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
"Ond pa ddrwg a wnaeth ef?" meddai yntau. Gwaeddasant hwythau yn uwch byth, "Croeshoelier ef."
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Ac efe a ddywedodd, Wel, pa ddrwg a wnaeth efe? Eithr hwy a lefasant yn fwy o lawer, gan ddywedyd, Croeshoelier ef.