Matthew 27:24 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Pan welawdd Pilatus na thycyei dim yddaw anid bot mwy o gynnwrf yn cody, ef a gymerth ddw f r, ac a’ olches ei ddwylaw geyr bronn y popul, can ddywedyt, Gwirian wyf y wrth waet y cyfiawn hwnn, edrychwch-chwi arnoch.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
A chan weled o Pilat nad oedd efe yn tycio ddim, eithr i radd mwy fod y cynnwrf yn myned, gan gymmeryd dwfr y golchodd ei ddwylaw ger bron y dyrfa, gan ddywedyd, dieuog wyf oddiwrth waed y Cyfiawn hwn; bydded i chwi edrych.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
A phan welodd Pilat nad oedd dim yn tycio, ond yn hytrach bod cynnwrf yn codi, fe gymerth ddŵr a golchi ei ddwylo gerbron y dyrfa, gan ddywedyd, “Glân ydwyf oddi wrth waed y dyn hwn. Rhyngoch chwi a hynny.”
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A Peilat, pan welodd nad oedd dim yn tycio, ond yn hytrach bod cynnwrf, a gymerth ddwfr, ac a olchodd ei ddwylo gerbron y bobl, gan ddywedyd, Dieuog ydwyf fi oddi wrth waed y cyfiawn hwn: edrychwch chwi.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Dyma Peilat yn gweld fod dim pwynt cario ymlaen am fod y dyrfa'n dechrau cynhyrfu. Felly galwodd am ddŵr, a golchi ei ddwylo o flaen pawb. “Dim fi sy'n gyfrifol am ladd y dyn yma,” meddai. “Chi sy'n gyfrifol!”
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Pan welodd Pilat nad oedd dim yn tycio ond yn hytrach bod cynnwrf yn codi, cymerodd ddu373?r, a golchodd ei ddwylo o flaen y dyrfa, a dweud, "Yr wyf fi'n ddieuog o waed y dyn hwn; chwi fydd yn gyfrifol."
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Felly Pilat pan welodd nad oedd dim yn tycio, ond yn hytrach bod cynhwrf yn cyfodi, a gymmerth ddwfr, ac a olchodd ei ddwylaw gerbron y dyrfa, gan ddywedyd, Diniwed ydwyf fi o waed y cyfiawn hwn: edrychwch chwi.