Matthew 27:26 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Ac val hynn y gellyngawdd ef Barabas yddynt, ac ef a yscyrsiodd yr Iesu, ac y rhodes ef yw groci.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Yna y gollyngodd efe yn rhydd iddynt Barabba; ac yr Iesu, ar ol Ei fflangellu Ef, a draddododd efe i’w groes-hoelio.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Yna rhyddhaodd iddynt Farabbas, ond ffrewyllodd yr Iesu, a’i draddodi i’w groeshoelio.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Yna y gollyngodd efe Barabbas yn rhydd iddynt: ond yr Iesu a fflangellodd efe, ac a'i rhoddes i'w groeshoelio.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Felly dyma Peilat yn rhyddhau Barabbas iddyn nhw. Wedyn gorchmynnodd fod Iesu i gael ei chwipio, ac yna ei ddedfrydu i gael ei groeshoelio.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Yna rhyddhaodd Pilat iddynt Barabbas, a thraddododd Iesu, ar l ei fflangellu, i'w groeshoelio.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Yna efe a ryddhaodd iddynt Barabbas; eithr yr Iesu a fflangellodd efe, ac a draddododd i'w groeshoelio.