Matthew 27:29 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
ac a blethesont coron ddrain ac ei dodesont ar ei benn, a’ chorsen yn ei law ddeheu, ac a blycesont ei glinie geir ei vron, ac ei gwatworesont, gan ddywedyt, Henpych‐well Brenhin yr Iuddeon,
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
ac wedi plethu coron o ddrain, gosodasant hi ar Ei ben, a chorsen yn Ei law ddehau; a chan benlinio o’i flaen Ef, gwatwarasant Ef, gan ddywedyd, Henffych well, Brenhin yr Iuddewon!
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
a phlethasant goron o ddrain a’i rhoi ar ei ben a chorsen yn ei law ddehau, a chan benlinio o’i flaen gwatwarasant ef gan ddywedyd, “Henffych well, Frenin yr Iddewon!”
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A chwedi iddynt blethu coron o ddrain, hwy a'i gosodasant ar ei ben ef, a chorsen yn ei law ddeau; ac a blygasant eu gliniau ger ei fron ef, ac a'i gwatwarasant, gan ddywedyd, Henffych well, brenin yr Iddewon.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
plethu drain i wneud coron i'w rhoi ar ei ben, rhoi gwialen yn ei law dde a phenlinio o'i flaen a gwneud hwyl am ei ben. “Eich mawrhydi! Brenin yr Iddewon!” medden nhw.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
plethasant goron o ddrain a'i gosod ar ei ben, a gwialen yn ei law dde. Aethant ar eu gliniau o'i flaen a'i watwar: "Henffych well, Frenin yr Iddewon!"
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Ac wedi iddynt blethu coron o ddrain, hwy a'i gosodasant ar ei ben Ef, a chorsen yn ei law ddeheu; ac a blygasant eu gliniau ger ei fron Ef, ac a'i gwatwarasant, gan ddywedyd, Henffych well, Ti Frenin yr Iuddewon.