Matthew 27:3 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Yno pan weles Iudas aei bradychawdd, ei ady ef yn auawc, e vu edivar ganthaw, ac a dduc drachefn y dec arucain ariant ir Archoffeiriait, a’r Henurieit,
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Yna wedi gweled o Iwdas yr hwn a’i traddododd, y condemniwyd Ef gan edifarhau y dug drachefn y deg ar hugain arian at yr archoffeiriaid â’ r henuriaid,
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Yna pan welodd Iwdas, a’i bradychodd ef, ddarfod ei gondemnio, bu’n edifar ganddo, a daeth â’r deg darn arian ar hugain yn ôl i’r archoffeiriaid a’r henuriaid,
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Yna pan welodd Jwdas, yr hwn a'i bradychodd ef, ddarfod ei gondemnio ef, bu edifar ganddo, ac a ddug drachefn y deg ar hugain arian i'r archoffeiriaid a'r henuriaid,
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Pan sylweddolodd Jwdas, y bradwr, fod Iesu'n mynd i gael ei ddienyddio, roedd yn edifar am beth wnaeth e. Aeth â'r tri deg darn arian yn ôl i'r prif offeiriaid a'r arweinwyr.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Yna pan welodd Jwdas, ei fradychwr, fod Iesu wedi ei gondemnio, bu'n edifar ganddo ac aeth 'r deg darn arian ar hugain yn l at y prif offeiriaid a'r henuriaid.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Yna pan welodd Judas, yr hwn a'i bradychodd ef, ddarfod ei gondemnio ef, bu ddrwg ganddo, ac a ddychwelodd y deg ar hugain arian i'r Arch‐offeiriaid a'r Henuriaid,