Matthew 27:31 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
A’ gwedy yddwynt ei watwary, wy ei dioscesont ef o’r huc, ac ei gwiscesont ef aei ddillat ehun, ac aethant ac ef yw groci.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
A phan gwatwarasant Ef, diosgasant Ef o’r fantell, a rhoisant am Dano Ei ddillad Ei hun, a dygasant Ef ymaith i’w groes-hoelio Ef.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Ac wedi iddynt ei watwar, diosgasant y fantell oddi amdano a’i wisgo â’i ddillad ei hun, a dygasant ef ymaith i’w groeshoelio.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ac wedi iddynt ei watwar, hwy a'i diosgasant ef o'r fantell, ac a'i gwisgasant â'i ddillad ei hun, ac a'i dygasant ef ymaith i'w groeshoelio.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Pan oedden nhw wedi blino cael sbort, dyma nhw'n tynnu'r clogyn oddi arno, a'i wisgo yn ei ddillad ei hun unwaith eto. Wedyn dyma nhw'n ei arwain allan i gael ei groeshoelio.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Ac wedi iddynt ei watwar, tynasant y clogyn oddi amdano a'i wisgo ef 'i ddillad ei hun, a mynd ag ef ymaith i'w groeshoelio.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Ac wedi iddynt ei watwar, hwy a'i diosgasant Ef o'r fantell, ac a'i gwisgasant Ef â'i ddillad ei hun, ac a'i dygasant Ef ymaith i'w groeshoelio.