Matthew 27:32 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Ac a’n hwy yn mynet allan, eu cawsant ddyn o Cyren, a elwit Simon: a hwn a gompellasant i ddwyn y groc ef.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Ac wrth ddyfod allan cawsant ddyn o Cyrene, a’i enw Shimon;
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Ac wrth fyned allan cawsant ddyn o Gyrene, a’i enw Simon; a gorfodi hwn i gymryd ei groes ef.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ac fel yr oeddynt yn myned allan, hwy a gawsant ddyn o Cyrene, a'i enw Simon; hwn a gymellasant i ddwyn ei groes ef.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Ar eu ffordd allan, daeth dyn o Cyrene o'r enw Simon i'w cyfarfod, a dyma'r milwyr yn ei orfodi i gario croes Iesu.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Wrth fynd allan daethant ar draws dyn o Cyrene o'r enw Simon, a gorfodi hwnnw i gario ei groes ef.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Ac fel yr oeddynt yn myned allan, hwy a gawsant ddyn o Cyrene, a'i enw Simon; hwn a orfodasant, fel y dygai ei groes.