Matthew 27:34 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Wy roesont yddaw yw yfet vinegr yn gymyscedic a bystyl: a’ gwedy yðo ei brovi, ny vynnawdd ef yvet.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
rhoisant Iddo i’w yfed win yn gymmysgedig â bustl;
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
rhoesant iddo i’w yfed win wedi ei gymysgu â bustl; ac wedi ei brofi gwrthododd ei yfed.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Hwy a roesant iddo i'w yfed, finegr yn gymysgedig â bustl: ac wedi iddo ei brofi, ni fynnodd efe yfed.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
dyma nhw'n cynnig diod o win wedi ei gymysgu gyda chyffur chwerw i Iesu, ond ar ôl ei flasu gwrthododd Iesu ei yfed.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
ac yno rhoesant iddo i'w yfed win wedi ei gymysgu bustl, ond ar l iddo ei brofi, gwrthododd ei yfed.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
hwy a roisant iddo i'w yfed win yn gymmysgedig â wermod; ac wedi ei brofi, ni fynodd Efe yfed.