Matthew 27:35 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Ac wedy yðynt y grogy ef, wy ranesont ei ddillat, ac a vwriesont goelbrenni, er cyflawny y peth, y ddywetpwyt trwy ’r Prophwyt, Wy a rannasant vy‐dillat yn eu plith, ac ar vy‐gwisc y bwriesont goelbren.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
ac wedi ei brofi o Hono nid ewyllysiai yfed.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Wedi iddynt ei groeshoelio, rhanasant ei ddillad gan fwrw coelbren,
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ac wedi iddynt ei groeshoelio ef, hwy a ranasant ei ddillad, gan fwrw coelbren: er cyflawni'r peth a ddywedwyd trwy'r proffwyd, Hwy a ranasant fy nillad yn eu plith, ac ar fy ngwisg y bwriasant goelbren.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Ar ôl ei hoelio ar y groes, dyma nhw'n gamblo i weld pwy fyddai'n cael ei ddillad.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Croeshoeliasant ef, ac yna rhanasant ei ddillad, gan fwrw coelbren,
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Ac wedi iddynt ei groeshoelio Ef, hwy a ranasant ei ddillad, gan fwrw coelbren.