Matthew 27:4 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
gan ddywedyt, Pechais can vradychy gwaet gwirian. Wythae a ðywydesont, Peth yw hyny i ni? edrych ti.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
gan ddywedyd, Pechais gan draddodi gwaed diniweid. A hwy a ddywedasant, Pa beth yw hyny i ni?
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
gan ddywedyd, “Pechais wrth fradychu’r diniwed.” Dywedasant hwythau, “Beth yw hynny i ni? Rhyngot ti a hynny.”
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Gan ddywedyd, Pechais, gan fradychu gwaed gwirion. Hwythau a ddywedasant, Pa beth yw hynny i ni? edrych di.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
“Dw i wedi pechu;” meddai, “dw i wedi bradychu dyn cwbl ddieuog.” “Does dim ots gynnon ni.” medden nhw, “Dy gyfrifoldeb di ydy hynny.”
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Dywedodd, "Pechais trwy fradychu dyn dieuog." "Beth yw hynny i ni?" meddent hwy, "rhyngot ti a hynny."
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
gan ddywedyd, Pechais trwy fradychu gwaed gwirion. Eithr hwy a ddywedasant, Pa beth yw hyny i ni? Ti a edrychi at hyny.