Matthew 27:40 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
a’ dywedyt, Ti yr hwn a ddestrywi ’r Tem p l, ac ei adaily mewn tri‐die, cadw dy hun: a’s tu yw Map Duw, descen o groc.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Yr hwn wyt yn dinystrio’r deml, ac mewn tridiau y’i hadeiledi, gwared Dy Hun: os Mab Duw wyt, tyr’d i lawr oddi ar y groes.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
a dywedyd, “Ddymchwelwr y deml a’i hadeiladwr mewn tridiau, achub dy hun, os Mab Duw ydwyt, a disgyn oddi ar y groes.”
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A dywedyd, Ti yr hwn a ddinistri'r deml, ac a'i hadeiledi mewn tridiau, gwared dy hun. Os ti yw Mab Duw, disgyn oddi ar y groes.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
“Felly! Ti sy'n mynd i ddinistrio'r deml a'i hadeiladu eto o fewn tri diwrnod? Tyrd yn dy flaen! Achub dy hun! Tyrd i lawr o'r groes yna, os mai ti ydy Mab Duw go iawn!”
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
a dweud, "Ti sydd am fwrw'r deml i lawr a'i hadeiladu mewn tridiau, achub dy hun, os Mab Duw wyt ti, a disgyn oddi ar y groes."
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
gan ysgwyd eu penau, a dywedyd, Ti yr hwn a ddinystri y Cyssegr, ac mewn tridiau a'i adeiledi, gwared dy hun: os Mab Duw ydwyt ti, disgyn oddiar y groes.