Matthew 27:43 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Mae e yn ymðiriet yn‐Duw, rhyðhaet ef yr awrhon, a’s myn ef ei gahel: can ys ef a ddyvot, Map Dew ytwyf.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Ymddiriedodd yn Nuw. Gwareded Efe Ef yr awr hon, os ewyllysia Ef; canys dywedodd Mab Duw wyf.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Y mae’n ymddiried yn Nuw; gwareded ef yn awr, os yw amdano; canys dywedodd, ‘Mab Duw ydwyf’.”
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ymddiriedodd yn Nuw; gwareded efe ef yr awron, os efe a'i myn ef: canys efe a ddywedodd, Mab Duw ydwyf.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Mae'n dweud ei fod e'n trystio Duw, gadewch i ni weld Duw yn ei achub e! Onid oedd e'n dweud ei fod yn Fab Duw?”
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Ymddiriedodd yn Nuw; boed i Dduw ei waredu yn awr, os yw 'i fryd arno, oherwydd dywedodd, 'Mab Duw ydwyf.'"
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Y mae yn ymddiried yn Nuw: gwareded Efe Ef yr awrhon, os myn Efe Ef; canys Efe a ddywedodd, Mab Duw ydwyf fi.