Matthew 27:48 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Ac yn y van vn o hanynt o redawð, ac a gymerth yspong ac ei llanwodd o vinegr, ac a ei dodes ar gorsen, ac a roes iddaw yw yfet.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Ac yn uniawn gan redeg o un o honynt, ac wedi cymmeryd ysbwng, a’i llenwi o finegr a’i rhoddi am gorsen, diododd Ef:
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Ac yn y fan rhedodd un ohonynt a chymerth ysbwng a’i lenwi â surwin a’i ddodi ar flaen gwialen a’i roi iddo i’w yfed.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ac yn y fan un ohonynt a redodd, ac a gymerth ysbwng, ac a'i llanwodd o finegr, ac a'i rhoddodd ar gorsen, ac a'i diododd ef.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Dyma un ohonyn nhw'n rhedeg ar unwaith i nôl ysbwng, a'i drochi mewn gwin sur rhad. Yna fe'i cododd ar flaen ffon i'w gynnig i Iesu i'w yfed.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Ac ar unwaith fe redodd un ohonynt a chymryd ysbwng a'i lenwi gwin sur a'i ddodi ar flaen gwialen a'i gynnig iddo i'w yfed.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Ac yn y fan un o honynt a redodd, ac a gymmerth yspwng, ac a'i llanwodd o finegr, ac a'i rhoddodd ar gorsen, ac a'i diododd Ef.