Matthew 27:5 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Ac wedy yddaw davly yr ariant yn y Templ, ef a ymadawodd, ac aeth, ac a ymgrogawdd.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Tydi a edrych. Ac wedi taflu yr arian i’r cyssegr, ciliodd ymaith; ac wedi myned ymaith, ymgrogodd.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
A bwriodd yr arian i’r deml ac ymadael, ac aeth ymaith ac ymgrogi.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ac wedi iddo daflu'r arian yn y deml, efe a ymadawodd, ac a aeth ac a ymgrogodd.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Felly dyma Jwdas yn taflu'r arian ar lawr y deml a mynd allan a chrogi ei hun.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
A thaflodd Jwdas yr arian i lawr yn y deml ac ymadael; aeth ymaith, ac fe'i crogodd ei hun.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Ac wedi iddo daflu yr arian i'r Cyssegr, efe a ymadawodd; ac efe a aeth ymaith, ac a ymdagodd.