Matthew 27:51 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
A’ nycha, l’en y Templ a rwygwyd yn ðau, or cwr vcha yd yr isaf, a’r ddaear a grynawdd, a’r main a holltwyt,
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Ac wele, llen y deml a rwygwyd yn ddwy, oddi fynu hyd i wared; a’r ddaear a ysgydwyd; a’r creigiau a rwygwyd;
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Ac wele, llen y deml a rwygwyd yn ddwy o’r pen i’r gwaelod; a chrynodd y ddaear, a holltwyd y creigiau,
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ac wele, llen y deml a rwygwyd yn ddau oddi fyny hyd i waered: a'r ddaear a grynodd, a'r meini a holltwyd:
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Dyna'n union pryd wnaeth y llen oedd yn hongian yn y deml rwygo yn ei hanner o'r top i'r gwaelod. Roedd y ddaear yn crynu a'r creigiau yn hollti,
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
A dyma len y deml yn cael ei rhwygo yn ddwy o'r pen i'r gwaelod. Siglwyd y ddaear a holltwyd y creigiau;
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Ac wele, Llen y Cyssegr a rwygwyd oddifyny i waered yn ddau; a'r ddaear a grynodd; a'r creigiau a rwygwyd,