Matthew 27:54 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Pan weles y cann‐wriad, ar ei oedd gyd ac ef yn gwylie d yr Iesu, y ddaiar yn cryny, a’r pethe awneythesit, wy ofnesont yn vawr, can ddywedyt, Yn wir Map Duw yt oedd hwn.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
A’r canwriad, a’r rhai ynghydag ef yn gwylied yr Iesu, wedi gweled y ddaear-gryn a’r pethau a ddigwyddasant, a ofnasant yn ddirfawr, gan ddywedyd, Yn wir Mab Duw oedd Hwn.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
A’r canwriad a’r rhai oedd gydag ef yn gwylied yr Iesu, pan welsant y ddaeargryn a’r pethau oedd yn digwydd, ofnasant yn fawr, a dywedyd, “Yn wir mab i dduw oedd hwn.”
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ond y canwriad, a'r rhai oedd gydag ef yn gwylied yr Iesu, wedi gweled y ddaeargryn, a'r pethau a wnaethid, a ofnasant yn fawr, gan ddywedyd, Yn wir Mab Duw ydoedd hwn.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Dyma'r daeargryn a phopeth arall ddigwyddodd yn dychryn y capten Rhufeinig a'i filwyr oedd wedi bod yn cadw golwg ar Iesu. Gwaeddodd, “Mab Duw oedd y dyn yma, reit siŵr!”
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Ond pan welodd y canwriad, a'r rhai oedd gydag ef yn gwylio Iesu, y daeargryn a'r cwbl oedd yn digwydd, daeth ofn mawr arnynt a dywedasant, "Yn wir, Mab Duw oedd hwn."
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
A'r Canwriad, a'r rhai oedd gydag ef yn gwylied yr Iesu, wedi gweled y ddaeargryn, a'r pethau a ddygwyddasant, a ofnasant yn ddirfawr, gan ddywedyd, Mewn gwirionedd Mab Duw oedd hwn.