Matthew 27:55 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Ac ydd oedd yno lawer o wragedd, yn edrych arnavv o bell, yr ei a gynlynesent yr Iesu o’r Galilea, gan weini yddaw.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Ac yr oedd yno wragedd lawer yn edrych, y rhai a ganlynasent yr Iesu o Galilea, gan weini iddo;
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Ac yr oedd yno wragedd lawer yn edrych o bell, y rhai a ddilynasai’r Iesu o Galilea gan weini arno;
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ac yr oedd yno lawer o wragedd yn edrych o hirbell, y rhai a ganlynasent yr Iesu o Galilea, gan weini iddo ef:
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Roedd nifer o wragedd wedi bod yn gwylio beth oedd yn digwydd o bell. Roedden nhw wedi dilyn Iesu yr holl ffordd o Galilea i ofalu fod ganddo bopeth oedd arno'i angen.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Yr oedd yno lawer o wragedd yn edrych o hirbell, rhai oedd wedi canlyn Iesu o Galilea i weini arno;
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Ac yr oedd yno wragedd lawer yn syllu o hirbell, y rhai a ganlynasent yr Iesu o Galilea, gan weini iddo ef.