Matthew 27:57 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
A’ gwedi y myned hi yn hwyr, y daeth gwr goludawc o Arimathaia, a’ ei enw Ioseph, yr hwn vesei yntef yn ddiscipul ir Iesu.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
A’r hwyr wedi dyfod, daeth gŵr goludog o Arimathea, a’i enw Ioseph, yr hwn oedd yntau hefyd yn ddisgybl i’r Iesu.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Ac wedi iddi hwyrhau daeth dyn cyfoethog o Arimathea, a’i enw Ioseff, a ddaethai yntau yn ddisgybl i’r Iesu.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ac wedi ei myned hi yn hwyr, daeth gŵr goludog o Arimathea, a'i enw Joseff, yr hwn a fuasai yntau yn ddisgybl i'r Iesu:
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Ychydig cyn iddi nosi, dyma ddyn o'r enw Joseff (dyn cyfoethog o Arimathea oedd yn un o ddilynwyr Iesu) yn mynd at Peilat.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Pan aeth yn hwyr, daeth dyn cyfoethog o Arimathea o'r enw Joseff, a oedd yntau wedi dod yn ddisgybl i Iesu.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
A phan ddaeth yr hwyr, daeth gwr goludog o Arimathëa, a'i enw Joseph, yr hwn ei hun hefyd a wnaed yn ddysgybl i'r Iesu.