Matthew 27:60 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
ac ei dodes yn ei vonwent newydd, yr hwn a drychesei ef mewn craic, ac a dreiglodd lech vawr ar ddrws y vonwent, ac aeth ymaith.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Ioseph a’i hamdôdd â lliain glân, a gosododd Ef yn ei fedd newydd ei hun, yr hwn a dorrasai efe yn y graig; ac wedi treiglo maen mawr at ddrws y bedd, aeth ymaith.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
a dododd ef yn ei fedd newydd a naddasai yn y graig, a threiglodd faen mawr ar ddrws y bedd, ac aeth ymaith.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ac a'i gosododd ef yn ei fedd newydd ei hun, yr hwn a dorasai efe yn y graig; ac a dreiglodd faen mawr wrth ddrws y bedd, ac a aeth ymaith.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Yna fe'i rhoddodd i orwedd yn ei fedd newydd ei hun, un wedi ei naddu yn y graig. Wedyn, ar ôl rholio carreg drom dros geg y bedd, aeth i ffwrdd.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
a'i osod yn ei fedd newydd ef ei hun, yr oedd wedi ei naddu yn y graig. Yna treiglodd faen mawr wrth ddrws y bedd ac aeth ymaith.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
ac a'i gosododd ef yn ei fedd newydd ei hun, yr hwn a dorasai efe yn y graig; ac wedi treiglo maen mawr at ddrws y bedd, efe a aeth ymaith.