Matthew 27:63 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
ac a ddywedesont, Arglwydd, e ddaw in cof ni ddywedyt o’r twyllwr hwnw, ac ef etwa yn vyw, O vewn tri‐die y cyfodaf,
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
gan ddywedyd, Arglwydd, cofiwn y bu i’r arweinydd ar gyfeiliorn hwnw ddywedyd, tra etto yn fyw, Wedi tridiau cyfodi yr wyf.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
gan ddywedyd, “Syr, cof gennym i’r twyllwr hwnnw ddywedyd, pan oedd eto’n fyw, ‘Wedi tridiau cyfodaf.’
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Gan ddywedyd, Arglwydd, y mae yn gof gennym ddywedyd o'r twyllwr hwnnw, ac efe eto yn fyw, Wedi tridiau y cyfodaf.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
“Syr,” medden nhw wrtho, “un peth ddwedodd y twyllwr yna pan oedd e'n dal yn fyw oedd, ‘Bydda i'n dod yn ôl yn fyw ymhen deuddydd’.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
a dweud, "Syr, daeth i'n cof fod y twyllwr yna, pan oedd eto'n fyw, wedi dweud, 'Ar l tridiau fe'm cyfodir.'
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
gan ddywedyd, Arglwydd, daeth i'n cof ddywedyd o'r Twyllwr hwnw, tra yr oedd efe etto yn fyw, Wedi tridiau yr wyf yn cyfodi.